Alert Section

Coronafeirws COVID-19 Cyfnod clo lleol


Mae pedwar cyngor yng ngogledd Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol eraill yn cefnogi cyfyngiadau ychwanegol er mwyn helpu i frwydro Coronafeirws. 

O ddydd Iau, 1 Hydref 2020 am 6pm, bydd cyfyngiadau ychwanegol yn cael eu cyflwyno yn Sir y Fflint a fydd yn berthnasol i bawb sy’n byw neu’n gweithio yn yr ardal ac i bobl sydd efallai yn dymuno ymweld.

Bydd y cyfyngiadau yn golygu: 

  • Ni chaniateir i bobl ddod i mewn na gadael y sir y maent yn byw ynddi (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam) heb reswm da, er enghraifft teithio i'r gwaith neu addysg;
  • Am y tro, dim ond tu allan yn yr awyr agored y bydd hawl gan bobl i gwrdd ac eraill nad ydynt yn byw yn yr un ty. Ni chaniateir ffurfio na bod yn rhan o gartrefi estynedig (a elwir yn “swigen” hefyd weithiau).

Bydd y mesurau hyn yn cael eu hadolygu’n gyson. 

Gofynnir hefyd i breswylwyr gofio cadw at y canllawiau presennol, sy'n cynnwys:

Am fwy o wybodaeth am y cyfyngiadau, ewch i www.llyw.cymru/cyfnod-clo-lleol-cyngor-sir-y-fflint-cwestiynau-cyffredin